Wrth
ystyried uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050, gwelir pwysigrwydd prif-ffrydio’r Gymraeg
ym mhob agwedd o waith y Llywodraeth. Cynigiwn fod angen i
flaenoriaethu cynyddu nifer y plant sydd yn derbyn addysg a gofal
cyfrwng Cymraeg. Nodwyd blaenoriaeth i sicrhau cyflenwad
digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn y
strategaeth ddrafft miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Cynigiwn
yr angen i ymestyn hyn i gwmpasu’r gweithlu blynyddoedd
cynnar er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o weithlu gofal i ddarparu
gwasanaethau yn Gymraeg.
Cydnabu'r Llywodraeth fod y blynyddoedd cynnar yn gyfnod
hanfodol yn nhaith plentyn tuag at ruglder yn y Gymraeg. Gwelwn yr
angen i normaleiddio ac i brif-ffrydio argaeledd gwasanaethau
cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, gydag ystyriaeth benodol i
sicrhau ehangu a chynyddu canran y llefydd Cymraeg o fewn
lleoliadau Dechrau’n Deg i lefelau sy’n gymharus
a’r nifer o blant sydd mewn addysg Gymraeg ym mlwyddyn 2 yn
yr ysgol Gynradd. Gweler hefyd yr angen i sicrhau bod yr
awdurdodau lleol yn gosod targedau ar gyfer tyfu darpariaeth
blynyddoedd cynnar a’u cynnwys yn y Cynlluniau Strategol y
Gymraeg mewn Addysg, fel y nodwyd yng ngwerthusiad diweddar y
Strategaeth Addysg Gymraeg. Fe fyddai hyn hefyd yn cefnogi un
o’r nodau llesiant “Cymru â diwylliant bywiog lle
mae’r Gymraeg yn ffynnu” a nodwyd yn neddf Llesiant
cenedlaethau’r Dyfodol.
Yn
atodol, ceir consensws trawsbleidiol o’r angen i drechu tlodi
ac i leihau effeithiau niweidiol tlodi ar ddatblygiad plant a
theuluoedd. I’r perwyl hwn, cynigiwn y byddai
cefnogi’r sector gofal blynyddoedd cynnar i fynd i’r
afael ag effeithiau tlodi y tu hwnt i ardaloedd dynodedig
Dechrau’n Deg yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad agweddau
penodol o’r cynllun presennol.
Nodwn hefyd yr angen i sicrhau trafodaethau a chyd-weithio ar
draws y sectorau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau
gweithredu’r cynnig o 30 awr o ofal i blant 3 a 4 oed rhieni
sy’n gweithio. Gwelwn gyfle cyffroes i ddatblygu ac
ehangu’r cynnig i rieni ar draws y sector gofal - yn
gylchoedd meithrin, playgroups, meithrinfeydd dydd
neu’n warchodwyr plant.
Wrth
ystyried y cynnydd arfaethedig hwn yn yr oriau gofal plant rhad ac
am ddim fydd yn cael eu cynnig i nifer o deuluoedd, amlygir yr
angen i sicrhau tegwch i blant ag anghenion ychwanegol. Mae
costau ychwanegol ynghlwm i hyn i nifer o deuluoedd, a gwelwn yr
angen i sicrhau cysondeb i bob plentyn, waeth beth fo’u
hanghenion.
Gwelir angen yma i sicrhau nad ydy’r newidiadau sydd ar
y gweill yn sgil dyfodiad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) yn cael effaith negyddol ar allu unigolion i
ddefnyddio’r gwasanaethau perthnasol.
Yn
atodol, gwelir yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth arbenigol
amserol i’r gweithlu blynyddoedd cynnar.
Conglfaen pwysig i’r blaenoriaethau uchod yw sicrhau
gweithlu cymwys sydd yn meddu ar y sgiliau proffesiynol ac
ieithyddol angenrheidiol. I’r perwyl hwn, cynigiwn fod
angen buddsoddiad ariannol er mwyn medru sicrhau cyflenwad digonol
o ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n medru darparu gwasanaeth
cyfrwng Cymraeg.
Amlygwn yr angen i ddatblygu darpariaeth cymhwyster lefel 5 yn
dilyn pwysau cynyddol o du’r cynllun Dechrau’n Deg i
arweinyddion cylchoedd meithrin i gymhwyso i’r lefel hwn, ac
i sicrhau darpariaeth cyrsiau lefel 2 a 3 trwy gyfrwng y Gymraeg ar
draws Cymru. Nodwn yr angen i barhau i gyllido’r ac i
fuddsoddi yn y cymwysterau hyn at y dyfodol. Yma, nodwn hefyd yr
angen i fuddsoddi i ddatblygu gweithlu o diwtoriaid ac aseswyr sydd
yn medru ateb y galw am addysg a hyfforddiant yn Gymraeg yn y
maes.
Nodwn yr angen i barhau i gynyddu bri a statws y gweithlu
gofal ac addysg blynyddoedd cynnar. Cynigiwn mai dyma’r
ffordd i sicrhau denu ymarferwyr brwdfrydig, egnïol a gwybodus
i ddewis gyrfa yn y maes.
|